Y Gwasanaeth Dewis Codi Arian - Gwybodaeth i ddefnyddwyr

Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn cael ei gynnal gan Syrenis Ltd (www.syrenis.com) ar ran y Rheoleiddiwr Codi Arian, cwmni cyfyngedig trwy warant (rhif 10016446) yng Nghymru a Lloegr. Cyfeiriad y swyddfa gofrestredig: Eagle House, 167 City Road, Llundain, EC1V 1AW. Mae'r Rheoleiddiwr Codi Arian yn reoleiddiwr annibynnol codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae'n rhaid i ddefnyddwyr y Gwasanaeth Dewis Codi Arian ddarllen a derbyn ein Telerau Defnyddio'r Gwasanaeth a'r Polisi Preifatrwydd isod ynghylch sut rydym ni'n proses eich data personol chi. Cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis hefyd am fanylion sut mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis, os gwelwch yn dda.

Os hoffech weld y Cwestiynau Cyffredin, cliciwch yma, os gwelwch yn dda.

Cefndir

Mae'r Telerau Defnyddio hyn yn nodi sut mae defnyddwyr ('chi') yn cytuno i ddefnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian ('ni/y Gwasanaeth').

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn defnyddio eich data personol chi i ddarparu'r gwasanaeth yn unol â'ch cyfarwyddiadau chi. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i ddata personol a gasglwyd trwy wefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian at ddibenion lleihau cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol a gweinyddu'r Gwasanaeth yn unig. Nid yw'n berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian na'r Rheoleiddiwr Codi Arian trwy unrhyw ddull arall, yn cynnwys ffurfiau cyswllt uniongyrchol eraill (megis e-bost) neu trwy unrhyw wefan arall.

Cyfeiriwch at Bolisi Preifatrwydd y Rheoleiddiwr Codi Arian am ragor o wybodaeth am sut y defnyddir eich data personol dan yr amgylchiadau hyn.


Telerau Defnyddio

Ymwadiad

Nodwch, os gwelwch yn dda, bod y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn berthnasol i elusennau wedi'u cofrestru yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon ('sefydliadau codi arian') gyda'r Comisiwn Elusen berthnasol. Bydd rhai sefydliadau codi eraill wedi cofrestru â'r Rheoleiddiwr Codi Arian ac eisoes wedi cofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian, ond ni fydd pob un.

Nid oes gan y Rheoleiddiwr Codi Arian na'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian reolaeth dros unrhyw ddata a ddarparwyd gennych chi'n flaenorol neu y gallech chi ei ddarparu i sefydliad codi arian i sefydliad codi arian y tu allan i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Ni fydd Polisi Preifatrwydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian a'r Rheoleiddiwr Codi Arian yn berthnasol i'r data hwn.

Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn darparu eich data personol chi i'r sefydliadau codi arian rydych chi'n eu henwebau ar delerau sy'n nodi'n benodol (i) y dylid ei ddefnyddio at y dibenion a nodwyd yn unig a (ii) bod yr holl ddata personol yn cael ei drin yn ddiogel. Nid yw'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian na'r Rheoleiddiwr Codi Arian yn gyfrifol (dan y Telerau Defnyddio hyn neu fel arall) am sut mae sefydliadau o'r fath yn defnyddio eich data personol chi.

Diffiniad y gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn wefan a gwasanaeth ffôn sy'n caniatáu i bobl wneud cais i sefydliad(au) codi arian penodol roi'r gorau i anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atynt neu at rywun a enwir, un ai'n fyw neu wedi marw. Gellir defnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian i atal cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol trwy'r dulliau a ganlyn: galwadau ffôn, negeseuon e-bost, trwy'r post a negeseuon testun.

Defnyddio'r gwasanaeth

Cewch gyflwyno cais trwy'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian unrhyw adeg ar-lein neu ar y ffôn yn ystod oriau agor ein llinell gymorth. Rhaid i chi ddarparu enw(au) neu rif(au) elusen cofrestredig y sefydliadau codi arian nad ydych chi am iddynt gysylltu â chi mwyach. Rhaid i chi roi manylion cyswllt cywir fel y gall y sefydliad 'ddiwygio' eich data personol (h.y. ei ddynodi fel 'peidio â chysylltu' yn eu cronfeydd data).

Cewch ddewis hyd at 10 sefydliad ym mhob cais (cewch wneud nifer o geisiadau ar wahân, os dymunwch). Cewch ddewis terfynu'r marchnata uniongyrchol trwy gyfrwng galwadau ffôn, negeseuon e-bost, trwy'r post neu negeseuon testun (eich 'dewis ddull cysylltu').

Pan fyddwch chi wedi cyflwyno eich manylion personol a'r dulliau cysylltu rydych chi am eu hatal, bydd pob sefydliad codi arian a ddewiswyd gennych chi yn derbyn hysbysiad gan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Bydd yr hysbysiad ysgrifenedig hwn yn eu hysbysu eich bod wedi gwneud cais i atal cyfathrebidadau ac yn cynnwys cyfarwyddiadau sut i weld eich manylion chi yn ddiogel trwy borth elusen y Gwasanaeth Dewis Codi Arian.

Disgwylir i sefydliadau codi arian atal eich manylion cyn pen 21 diwrnod o gais dechreuol y Gwasanaeth Dewis Codi Arian.

Ceisiadau dilynol a chwynion

Pryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian i ofyn i sefydliad codi arian roi'r gorau i gysylltu â chi, gwnawn anfon neges e-bost i'w hysbysu i gofrestru a/neu fewngofnodi i wefan ddiogel y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Bydd manylion eich cais i'w gweld yno (neu gall sefydliadau ddewis derbyn hysbysiad yn eu diweddaru am bob cais o'r fath).

Os ydych chi'n parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol 21 diwrnod ar ôl eich cais dechreuol, cewch wneud cais dilynol trwy fewngofnodi i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian gan ddefnyddio'r cod cyfeirnod a roddwyd i chi. Yna bydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn anfon ail hysbysiad ffurfiol i'r sefyliad(au) codi arian ynghylch eich cais chi.

Os ydych chi'n parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan y sefydliad codi arian a'ch bod chi'n dymuno gwneud cwyn ffurfiol, cewch gysylltu â'r Rheoleiddiwr Codi Arian gan ddefnyddio Ffurflen Gwynion y Rheoleiddiwr Codi Arian. Nodwch yn glir ar y ffurflen pryd y gwnaethoch chi gyflwyno cais i'r sefydliad codi arian roi'r gorau i anfon cyfahrebiadau marchnata uniongyrchol atoch chi.

Darparu gwybodaeth gywir

Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn dibynnu ar dderbyn gwybodaeth gywir gennych chi. Bydd ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn cael ei effeithio os ydych chi'n:

  1. darparu data personol anghywir neu anghyflawn;
  2. dewis sefydliad codi arian anghywir; neu'n
  3. dweud wrth sefydliad codi arian, ar ôl cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian, y gall gysylltu gyda chi at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Nodwch, os gwelwch yn dda:

  1. Trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian rydych chi'n cytuno y bydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yn gweithredu fel eich asiant yn anfon hysbysiadau i'r sefydliadau codi arian yn gofyn iddynt roi'r gorau i gysylltu â chi, fel y disgrifir uchod.
  2. Gall y Rheoleiddiwr Codi Arian fynd ar drywydd cwynion yn uniongyrchol ag elusennau cofrestredig yn unig, er y gall wneud dyfarniad ynghylch cydymffurfio a'r Cod Ymarfer Codi Arian ('y cod') ar unrhyw adeg. Bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad 'atal prosesu' a wnaed trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn cael ei drin fel cwyn gan y Rheoleiddiwr Codi Arian dan y cod.
  3. Gellid cael amgylchiadau lle bo sefydliad codi arian yn parhau i gyfathrebu â chi am gyfnod cyfyngedig ar ôl 21 diwrnod am resymau dilys. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth.

Polisi Preifatrwydd

Defnyddio data personol

Defnyddir data personol a ddarperir i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian trwy'r wefan hon neu drwy wasanaeth ffôn y Gwasanaeth Dewis Codi Arian at ddibenion atal (hysbysu sefydliadau i beidio â chysylltu â chi gyda'u cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol) a gweinyddiaeth sylfaenol y gwasanaeth (a allai gynnwys anfon neges e-bost cadarnhau atoch chi neu eich hysbysu os yw ein Telerau Defnyddio neu ein Polisi Preifatrwydd yn newid).

Yn arferol ni fyddem yn disgwyl cadw data personol o'r fath am fwy na phedair blynedd, gan mai dyma'r cyfnod uchafswm y cewch wneud cwyn am ddiffyg cydymffurfio â chais gan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian gan elusen. Gallem ddefnyddio data yn ddi-enw at ddibenion ymchwil, adroddiadau a dadansoddi ystadegol.

Gweld eich data

Gallai data personol rydych chi'n ei ddarparu i ni gael ei weld gan staff y Rheoleiddiwr Codi Arian, sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Dewis Codi Arian, a gan Syrenis Ltd, contractwr y system.

Mae'r data personol rydych chi'n ei ddarparu trwy'r wefan yn cael ei storio ar weinyddion a reolir gan ein contractwr, sy'n rhwym dan gytundeb cyfreitiol â'r Rheoleiddiwr Codi Arian i warchod eich data chi. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â deddfwriaeth ynghylch prosesu data personol yn deg a chyfreithlon a'i gadw'n ddiogel, yn cynnwys sicrhau bod mesurau technegol a mesurau eraill digonol yn bodloni i ddiogelu eich data personol rhag cael ei golli neu ei weld yn ddiawdurdod, a'i ddefnyddio yn unol â thelerau'r cytundeb â'r Rheoleiddiwr Codi Arian yn unig.

Bydd y data a ddarperir yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon a enwyd lle rydych chi wedi nodi sefydliad codi arian penodol nad ydych chi'n dymuno cael cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol ganddo mwyach, gyda'r caniatâd a'ch cyfarwyddiadau chi. Defnyddir y data hwn at ddibenion atal cyfathrebiadau yn unig neu i'w gynnwys mewn meddalwedd atal cyfathrebiadau. Ni fydd eich data yn cael ei ddatgelu i'r trydydd partïon hyn at unrhyw ddiben arall, ac eithrio lle gwnaed cais gennych chi i'r perwyl hynny neu os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Trwy delerau defnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian a/neu'r hysbysiadau a ddarperir o dro i dro gan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian, mae trydydd partïon o'r fath wedi'u gwahardd rhag defnyddio'r data personol hwn at unrhyw ddiben ac eithrio atal cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol i'r manylion hynny. Bydd angen iddynt gadw cofnodion digonol o'r data hyn er mwyn gwneud hynny ac mae'n ofynnol hefyd iddynt gydymffurfio â'r holl ddeddfau perthnasol ynghylch yr holl ddata personol maent yn ei dderbyn.

Cadw eich data

Mae'r data rydych chi'n ei ddarparu i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn cael ei storio ar weinyddion sy'n cael eu rheoli gan ein contractwr, sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Lle bo trydydd parti yn derbyn eich data gennym ni (er enghraifft, sefydliad codi arian sydd angen eich manylion chi at ddibenion atal rhagor o gyfathrebiadau marchnata uniongyrchol), maent wedi'u cyfyngu dan delerau eu cytundeb â ni rhag storio'r data hwn y tu allan i'r Ardal Econonomaidd Ewropeaidd, ac eithrio lle eu bod wedi sicrhau mesurau diogelu digonol i'ch hawliau preifatrwydd data chi.

Gweld a diwygio eich data

Os ydych chi'n dymuno newid neu ddileu eich data personol neu'n dymuno gwybod pa ddata personol sy'n cael ei storio ar eich rhan chi gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, cysylltwch â ni - fps@fundraisingregulator.org.uk.

Y dewis arall yw ysgrifennu llythyr i'r: Gwasanaeth Dewis Codi Arian / Fundraising Preference Service, Eagle House, 167 City Road, Llunain, EC1V 1AW. Edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd y Rheoleiddiwr Codi Arian i gael rhagor o wybodaeth.

Diogelwch Data

Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian a'n contractwyr wedi rhoi amrywiaeth o fesurau diogeledd safonol y diwydiant ar waith i atal trydydd partïon rhag gweld data personol, yn cynnwys waliau tân, atal mewnwrthiad ac atal rhannu'r manylion IP. Edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd y Rheoleiddiwr Codi Arian hefyd.

Cadw Data

Mae'r holl ddata personol a ddarperir i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn cael ei storio un ai gan y Rheoleiddiwr Codi Arian neu ein contractwyr, am gyhyd ag y bo angen ar gyfer eich defnydd o'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y sefydliadau codi arian perthnasol yn cydymffurfio â'r hysbysiadau Gwasanaeth Dewis Codi Arian perthnasol.

Lle bo eich data'n cael ei ddarparu trwy'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian bydd y data'n cael ei storio gan sefydliadau codi arian rydych chi'n eu nodi at ddibenion atal manylion personol, nes eich bod chi'n rhoi cyfarwyddiadau iddynt wneud fel arall. Er enghraifft, trwy gysylltu â'r sefydliad yn uniongyrchol i newid eich dewisiadau cyfathrebu.

Gwefannau trydydd parti

Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau trydydd parti y gall defnyddwyr fynd iddynt o wefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Argymhellwn eich bod chi'n darllen y polisi preifatrwydd perthnasol cyn mewnbynnu unrhyw ddata personol i wefan trydydd parti.

Newidiadau i'r polisi hwn

Gallai fod yn ofynnol i ni newid y Polisi Preifatrwydd hwn o dro i dro wrth i'r gwasanaeth esblygu a gwnawn sicrhau diweddaru'r wybodaeth yn y wefan hon. Fodd bynnag, nid ydym yn rhagweld unrhyw newidiadau arwyddocaol i'r ffordd rydym ni'n cadw ac yn prosesu eich data personol dan system y Gwasanaeth Dewis Codi Arian.

Polisi Cwcis

Beth yw cwci?

Ffeiliau testun bach sy'n cael eu trosglwyddo i'ch cyfrifiadur neu eich dyfais symudol chi yw cwcis pan fyddwch chi'n edrych ar wefan. Defnyddir cwcis yn eang fel bo gwefannau yn gweithio yn y modd y'u bwriadwyd ac i wneud yn siwr eu bod yn cofio eich dewis osodiadau.

Sut mae'r wefan Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn defnyddio cwcis?

Mae'r wefan Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn defnyddio cwcis i:

  1. Wneud i'n gwefan weithredu'n effeithiol, er enghraifft, llwytho'n gyflymach, dangos fideos a dangos delweddau
  2. Ein cynorthwyo i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan, fel y medrwn ni wella ein gwasanaethau
  3. Tracio ein gweithgareddau marchnata allanol fel y medrwn uchafu ei berfformiad

Nid yw'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon yn cael eu defnyddio i gasglu unrhyw ddata personol. Ni fydd ein cwcis yn cael eu defnyddio i ddadansoddi eich ymweliadau â gwefannau eraill neu i dracio unrhyw chwiliadau rhyngrwyd rydych chi'n eu gwneud tra ar y wefan, ac eithrio ar gyfer dadansoddi ystadegol. Defnyddir y data a gesglir trwy'r cwcis i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan hon ar gyfer dadansoddi ystadegol. Gall gwybodaeth a ddarperir gan gwcis ein helpu ni i ddeall proffil ein hymwelwyr. Gall hyn ein cynorthwyo ni i wella ein gwasanaethau.

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis hanfodol ac anhanfodol. Cewch ddewis analluogi cwcis anhanfodol. Cewch ragor o fanylion isod.

Sut ydych chi'n rhoi caniatâd cwcis?

Y tro cyntaf rydych chi'n mynd i'n gwefan, gofynnir i chi a ydych chi'n rhoi caniatâd i dderbyn cwcis. Os ydych chi'n cytuno bydd cwcis yn cael eu cadw ar eich porwr ar gyfer yr ymweliad hwnnw a phob tro rydych chi'n edrych ar y wefan wedi hynny. Cewch newid eich gosodiadau cwcis trwy fynd i'r troednodyn a chlicio ar 'agor gosodiadau cwcis'.

Mae gennych chi'r dewis i beidio â chaniatáu cwcis anhanfodol. Yn yr achos hynny bydd ni fydd unrhyw gwcis rydych chi'n dewis eu hanalluogi yn cael eu cadw ar y porwr. Os ydych chi'n dewis analluogi cwcis gallai hynny effeithio ar swyddogaethau'r wefan.

Cwcis parti cyntaf a thrydydd parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis parti cyntaf a thrydydd parti. Mae'r cwcis parti cyntaf yn cael eu gosod gan wefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian a dim ond y wefan hon fedr eu darllen. Mae cwcis trydydd parti yn cael eu gosod gan wefannau allanol, megis YouTube. Cewch ddiffodd y rhain trwy ddefnyddio'r bar cwcis, sydd ar gael ar bob gwedudalen. Nodir rhagor o fanylion am y cwcis parti cyntaf a thrydydd parti rydym ni'n eu casglu isod.

Cwcis sesiwn a chwcis parhaol

Mae cwcis yn bodoli ar eich cyfrifiadur am gyfnodau amser amrywiol. Bydd rhai cwcis yn parhau am gyfnod eich sesiwn ar-lein yn unig, sy'n cael eu galw'n 'cwcis sesiwn.' Bydd eraill yn aros ar eich cyfrifiadur ar ôl i chi adael ein gwefan a chau eich porwr, sy'n cael eu galw'n 'cwcis parhaol'.

Rydym ni'n defnyddio cwcis parhaol i gofio eich gosodiadau chi ar gyfer ymweliadau â'n gwefan yn y dyfodol, tra bo cwcis sesiwn yn cael eu dileu pan fyddech chi'n cau eich porwr. Cewch ragor o fanylion am pryd y bydd pob cwci yn darfod yn y rhestr isod.

Cwcis hanfodol

Mae cwcis hanfodol yn cynorthwyo i wneud gwefan yn hawdd i'w defnyddio trwy alluogi swyddogaethau sylfaenol, megis dangos fideos neu gasglu gwybodaeth defnydd sylfaenol. Mae'r wefan hon yn casglu'r cwcis hanfodol a ganlyn:

Enw'r cwci: ASPSESSION

Pwrpas: Tracio cynnydd y defnyddiwr trwy'r system.

A fedra' i analluogi'r cwcis hyn? Na fedrwch. Ni fydd y wefan yn gweithredu'n gywir os nad yw'r cwci yma'n cael ei ddefnyddio.

Darfod: Sesiwn (20 munud)

Cwcis anhanfodol

Gellir analluogi'r cwcis hyn. Maent yn darparu gwybodaeth bwysig i ni ynghylch sut mae pobl yn defnyddio'r wefan, fel y medrwn wella eu profiad a gwella ein gwasanaethau ni.

Mae'r wefan hon yn casglu'r cwcis anhanfodol a ganlyn:

Enwau'r cwcis: CONSENT

Parti cyntaf neu drydydd parti? Trydydd parti

Pwrpas: Mae'r cwcis hyn yn cael eu cymhwyso'n awtomatig gan YouTube wrth ychwanegu fideo i'r wefan. Maent yn caniatáu i'r fideo gael ei ddangos.

Fedra' i analluogi'r cwcis hyn? Medrwch. Cliciwch ar y faner cwcis i analluogi cwcis anhanfodol. Cewch newid eich dewisiadau cwcis ar unrhyw adeg trwy fynd i'r troednodyn a chlicio ar 'agor gosodiadau cwcis'.

Darfod: 2 flynedd

Enwau'r cwcis: _gid, _ga, _gat_gtag

Pwrpas: Mae'r cwcis hyn yn casglu data defnydd ystadegol sylfaenol ein gwefan trwy Google Analytics a Google Tag Manager.

A fedra' i analluogi'r cwcis hyn? Na fedrwch. Ni fedrwch analluogi'r cwcis hyn ar wefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian, fodd bynnag, mae Google Analytics yn cynnig ychwanegiad ar y porwr i chi ddewis optio allan. Mae hyn yn rhoi mwy o ddewis i ymwelwyr sut mae eu data'n cael ei gasglu gan Google Analytics. Ewch i https://tools.google.com/dlpage/gaoptout i gael rhagor o wybodaeth.

Darfod:

  1. _gat_gtag – Ar unwaith

  2. _gid – 1 diwrnod

  3. _ga – 2 ddiwrnod

Dolenni i wefannau eraill

Mae ein gwefan ni'n cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti (gwefannau gan sefydliadau eraill).

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i wefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn unig, felly rydym ni'n eich annog chi i ddarllen y polisi preifatrwydd a'r polisi cwcis ar y gwefannau eraill rydych chi'n edrych arnynt. Ni fedrwn fod yn gyfrifol am arferion gwefannau eraill, hyd yn oed os ydych chi'n eu cyrchu gan ddefnyddio dolenni o'n gwefan ni.

Os gwnaethoch chi ddod i'n gwefan ni o wefan trydydd parti, ni fedrwn fod yn gyfrifol am bolisi cwcis a pholisi preifatrwydd gweithredydd y wefan trydydd parti honno ac argymhellwn eich bod yn darllen ei pholisïau.

Newidiadau i'r polisi hwn

Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi hwn yn cael ei ddiweddar ar y wefan hon. Gwiriwch y dudalen hon o dro i dro os gwelwch yn dda i sicrhau eich bod chi'n fodlon ag unrhyw newidiadau. Os ydym ni'n gwneud unrhyw newidiadau arwyddocaol gwnawn wneud hynny'n glir ar y wefan hon. Rydym ni'n adolygu'r polisi hwn yn rheolaidd. Diweddarwyd y polisi hwn ym mis Ebrill 2022.